Nordic Walking In Wales

  • Uploaded by: Annette Strauch
  • 0
  • 0
  • December 2019
  • PDF

This document was uploaded by user and they confirmed that they have the permission to share it. If you are author or own the copyright of this book, please report to us by using this DMCA report form. Report DMCA


Overview

Download & View Nordic Walking In Wales as PDF for free.

More details

  • Words: 480
  • Pages: 2
Cerdded Llychlynaidd Mae Annette Strauch sy'n wreiddiol o'r Almaen ond bellach yn byw ym Machynlleth wedi dysgu Cymraeg. Un o'i diddordebau ydy Cerdded Llychlynaidd, ac mae'n credu y dylai mwy o bobl yr ardal ac yng Nghymru ymgymryd â'r gamp. Dyma gamp newydd o Sgandinafia! Rydych chi'n cwrdd â nhw mwy aml nawr, y "walkers" deinameg gyda ffyn yng nghefn gwlad neu yn y ddinas, efallai ym Mharc Pontcanna, ar draeth o Aberdyfi i Dywyn, ar y prom yn Aberystwyth, ym Marmouth ar y ffordd i Ddolgellau a.y.b. Dewch i drio! Dechreuodd fel hyfforddiant haf ar gyfer mabolgampwyr gaeaf, er enghraifft sgïo croes gwlad. Yn Y Ffindir, mae 16% o'r boblogaeth yn gwneud hwn. Mae e'n boblogaidd yn yr Almaen hefyd a rownd y byd i gyd ac mae'n dechrau yng Nghymru ar y foment. Mae'n dda i bob un ohonon ni: pobl heini, neu bobl sy ddim yn ffit iawn, i'r hen ac i'r ifanc, ar gyfer pob tywydd, pob tymor. Ond mae llawer mwy i'r gamp na cherdded gyda ffyn. Mae llawer o fanteision meddygol gyda Nordic Walking: i'r galon, y cyhyrau, y dull hudol yn erbyn poenau cefn (ar ôl disgiau wedi llithro.) Mae'n dda yn seicolegol hefyd, agor eich ysgyfaint i gael rhagor o ocsigen (os mae asthma gyda chi) a rydych chi'n defnyddio llawer o galorïau. Felly mae Nordic Walking yn gallu helpu chi i golli pwysau! Mae'n rheoli pwysedd gwaed ac ar yr un pryd rydych chi'n cael llawer o hwyl! Gobeithio bydd 'na gefnogaeth yng Nghymru gan y Cynulliad yng Nghaerdydd. Byddaf yn siarad gyda fy meddyg ym Machynlleth sy'n dod o'r Iseldiroedd. Mae diddordeb yma ond mae pobl angen help weithiau. Tips ar y dechneg Techneg sylfaenol: sefyll yn syth, symud ysgwyddau gyda'r cluniau, defnyddio ffyn gyda breichiau hir, gwaith traed bywiog. Mae'n hyfforddiant ar gyfer y corff i gyd - a rydych chi'n ei wneud yn yr awyr agored, sy'n beth iach hefyd. Pan rydych chi'n hyfforddi mae angen yfed llawer o ddŵr a gwneud yn siŵr nad ydych chi'n colli fitaminau. Yr offer pwysicaf ydy ffyn cywir wrth gwrs. Maen nhw'n fyrrach na ffyn sgïo. Dydyn nhw ddim yn drwm oherwydd meant wedi eu gwneud o garbon. Hyd ffyn: 0.66 x taldra.

Mae 'Nordic Walking' rhwng 40% a 50% yn fwy effeithiol na cherdded heb ffyn. Mae hi'n bwysig i brynu esgidiau da. Peidiwch â defnyddio sgidiau cerdded! Maen hawdd iawn i ddysgu a rydych chi'n gallu ei wneud o flaen eich tŷ eich hunan, gartre. Mae'n dda i wneud hwn mewn grŵp gyda ffrindiau neu bobl drws nesaf, mae'n gymdeithasol iawn. Rydych chi'n gallu dysgu'r gamp heb wario llawer o arian gyda rhywun sydd â chymwysterau ac yn hoffi helpu a dysgu pobl! Am fwy o wybodaeth mae pobl yn gallu cysylltu â fi: [email protected] Mae hi'n hen amser i edrych ar y gamp o Nordic Walking o ddifrif.

Related Documents

Nordic Walking In Wales
December 2019 35
An American In Wales
May 2020 15
Wales In Europe
December 2019 30
Walking
May 2020 28

More Documents from ""

Diwylliant Cymru, Yr Almaen
November 2019 33
Nordic Walking In Wales
December 2019 35
Wales Culture2
November 2019 28
Mari Thomas - Schmuck
December 2019 24
December 2019 27