CYNHYRCHIADAU ELEMENT YN CYNHYRCHU DVD GYDA CWMNI RECORDIO RHYNGWLADOL ALIA VOX Y cyd-gynhyrchiad cyntaf rhwng cwmni cynhyrchu Cymraeg a chwmni cerddoriaeth Jordi Savall. I ddathlu 200 o flynyddoedd ers marwolaeth Haydn, mae Cynhyrchiadau Element a Alia Vox yn cynhyrchu eu cyd-cynhyrchiad cyntaf: DVD o Saith Gair Olaf Crist ar y Groes. Mae’r recordiad yma yn un hanesyddol, y cyntaf i gael ei wneud ar leoliad yn Cadiz, Andalucia, ble comisynwyd y gwaith ym 1787. Mae’r cynhyrchiad yn ffyddlon i’r disgrifaid cyntaf sydd gennym o’r perfformiad cyntaf oll gan Haydn, ac hefyd yn cynnwys golygfeydd syfrdanol o orymdeithiau yr Wythnos Sanctaidd yn Cadiz. Disgrifiodd Haydn y gwaith yma fel y cerddoriaeth gorau iddo erioed ei gyfansoddi. Mae’r perfformiad yn cael ei arwenio gan abrenigwr adnabyddus cerddoriaeth cynnar Jordi Savall gyda Le Concert des Nations. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei gyfeilio gan ddau sylwebaeth wedi eu ysgrifennu yn arbennig ar gyfer y prosiect. Mae’r diwynyddiwr Raimon Panikkar yn darparu dehongliad Cristnogol o’r gwaith, sy’n cael ei wrthgyferbynu gyda safbwynt yr anffydiwr Jose Saramago, enillwr y wobr Lenyddiaeth Nobel. Cafodd y perfformiad ym o Saith Gair Olaf Crist ar y groes ei ddarlledu yn wreiddiol ar S4C ac yn hwyrach ar BBC 4. Cyfarwyddwr teledu: Rhodri Huw
DOP: Tony Yates
Cynhyrchydd: Richard Edwards
Mae Cynhyrchiadau Element yn gwmni cynhyrchiadau teledu wedi ei leoli yng Nghaerdydd, mae’n arbenigo yn rhaglenni dogfen cyfoes, hanesyddol a’r celfeddydau. www.elementproductions.co.uk